Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cofrestrydd ei lyfr, ac wedi iddynt oll osod eu henwau yn hwnnw, ymadawodd Ivor Prys a Llio, ei wraig, gyda'i gilydd i lennydd hafaidd De Ffrainc.

Edrychodd Gwynn Morgan ar eu holau, a phrudd oedd ei feddwl, er na wyddai paham. Flwyddyn yn ôl, ni wyddai am fodolaeth yr un o'r ddau. Heddiw, aethai'r flwyddyn heibio-blwyddyn ryfedd, ddieithr, yn ei hanes. Ac fel yr ymgollai'r cerbyd a gludai'r ddau ddedwydd o'i olwg, teimlai fod darn o'i galon yn myned gyda hwy.