16
"WEDI'R NOS"
AR ôl ymadawiad Ivor a Llio, dechreuodd Gwynn Morgan feddwl am gynllun i gyflawni gorchwyl yr addawsai ei wneud i Ivor, sef claddu gweddillion ei fam. Anfonodd adref am dri o weision ei dad—dynion a'i carai, a dynion y gallai ymddiried ynddynt. Aeth y pedwar mewn cerbyd yn nyfnder y nos i Blas y Nos. Wedi gosod y gweddillion mewn arch, cludasant hwy ymaith i lan y môr, ac wedi eu dwyn ar fwrdd ei bleser-long, hwyliwyd ymaith. Glaniasant yn ddirgel yn Ffrainc; ac yno, dan yr awyr las, lle y buasai'n chwarae yn eneth fach, claddwyd gweddillion llofruddiedig y wraig ieuanc, dyner, a welsai gymaint o ofid gynt. Ar lan môr Ffrainc yn eu disgwyl yr oedd offeiriad Pabaidd; tyner iawn oedd llais y mynach fel y llefarai hen wasanaeth claddu urddasol a soniarus eglwys enwog y Canol Oesoedd. Er nad Pabyddiaeth oedd crefydd Ivor, honno oedd crefydd ei fam, a gwyddai ei fod yn gwneud ei dymuniad wrth alw mynach i offrymu'r weddi olaf uwchben ei llwch. Yr oedd Ivor a Llio yno, a Gwynn Morgan a'r mynach, a dyna'r cwbl.
Ar ôl y ddyletswydd bruddaidd honno, aeth Ivor a Llio i Geneva a'r Alpau, a dychwelodd Gwynn yn ôl i Loegr. Cyflogodd gudd-swyddog o Lundain i fyned gydag ef i archwilio Plas y Nos, er mwyn i hwnnw ddarganfod corff y llofrudd yno, fel y gallai'r gyfraith