sgrechfeydd dychrynllyd a diarth wedi'i clywed. Chymerwn i mo'r gwesty yma am basio y ffordd yna yn y nos." Ac yr oedd yn amlwg erbyn hyn ar lygaid Edwards nad cysurus ganddo oedd edrych tu ôl i'w gefn..
"Lol botes," meddai Morgan; "mae stori fel yna yn dygymod â hen wrachod i'r dim. Mi a'-i i weld y lle yr un fath yn union. Does arnom ni ddim ofn gweld ysbrydion, a oes, Ivor?"
Cododd Bonnard ei lygaid duon i fyny am eiliad, ac meddai mewn llais dwfn, tawel: "Mi garwn yn fawr gwrdd ag un!"
"Gobeithio y cymerwch-chi ofal mawr, foneddigion," ebr gŵr y tŷ, yn dipyn dewrach erbyn hyn. " Mi glywsom am lofftydd a grisiau cyfan yn dwad i lawr hefo'i gilydd mewn hen dai fel hyn."
"O, mi gymerwn-ni bob gofal, Mr Edwards," ebr Morgan, dan wenu.
Ar hynny, cododd gŵr y tŷ: "Mae-hi agos yn hanner-nos, felly rydw i'n ych gadael-chi, a diolch yn fawr ichi am ych caredigrwydd. Pryd y ca'-i ych galw chi fory, syr?"
"O, does dim angen galw, diolch ichi. Mi fydd Mr Bonnard yn 'y neffro-i ar doriad gwawr, mae'n debyg iawn."
"O'r gorau, syr. Nos dawch, foneddigion."
Eisteddodd y ddau yn ddistaw am ennyd nes gorffen eu myglysenni. Yna awgrymodd Bonnard mai gwell fyddai iddynt hwythau ddilyn esiampl eu gwestywr.
"Dowch, mae-hi'n bur hwyr," meddai; "mi fydd