Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig o gwsg yn gwneud y tro i mi, ond rhaid i chi gael digon."

Cyn pen deng munud, dywedasant "Nos dawch" wrth ei gilydd, ac aeth pob un i'w ystafell, ar feddwl codi'n fore i fynd am daith i Blas y Nos; ac yr oedd Morgan yn falch ei fod wedi cael hyd i anturiaeth mor ffodus wrth ymddiddan â gŵr y tŷ. Meddyliai mai ef oedd yr arweinydd. Beth a feddyliai Ivor Bonnard?