Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

distawrwydd y bedd a deyrnasai yno, adfail yn warcheidwad, ac anhrefn yn arddwr. Tros y grisiau a arweiniai at yr hen ddôr dderw, tyfai mwsog yn garped melynwyrdd. Ymguddiai'r llyffaint a'r genau-goeg yn y glaswellt llaprwth a orchuddiai'r lawnt. Gwydr flawer ffenestr wedi ei dorri, nes dangos y caeadau cryfion tu mewn. Dringasai'r iorwg gwyrdd i bob congl o'r mur, nes cuddio harddwch celfyddyd y pensaer. Brwydrai'r mieri a'r ysgall a'r chwyn am y lle gorau ar hyd rhodfeydd yr ardd. At y pysgodlyn o flaen y tŷ arweiniai rhesi o risiau llydain, a'r rheini wedi cwympo'n fwlch mewn mwy nag un lle, a'r mwsog drostynt; tyfasai alawon a llwyau'r dŵr nes llenwi'r llyn, a gwisgasai brwyn ei 'lannau.

Nid hawdd gwybod y cyfeiriad a gymerai dychymyg byw mewn lle fel hyn. Hwyrach y gwelai yn y gwyll freichiau gwynion mirain rhyw arglwyddes ifanc yn amser Bess, yn estyn ei harddwch allan dros ganllaw'r feranda i wahodd arglwydd ei chalon i'w mynwes, ac yntau dan gysgod y coed a'i cuddiai yn aros funud i syllu arnynt cyn cychwyn yn lladradaidd tuag atynt. Dichon mai rhyw Romeo a Juliet a welai ar doriad dydd yn galaru am dorri o'r wawr, ac er hynny yn methu cael digon ar felyster geiriau serch, er gwybod bod oedi munud arall yn ddigon o bosibl i ddwyn einioes y llanc oddi arno. Dichon mai gweledigaeth arall a gawsai'r dychymyg, y wawr yn torri yn llwyd ar ymyl y dwyrain, a dau ŵr yn prysuro i gyfarfod â'i gilydd ar y llannerch werdd dan y coed; carai'r ddau yr un ferch, chwenychai'r ddau yr un sedd, neu methasai'r ddau gytuno uwchben eu gwin y noson cynt, a