Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daethant i'r farn, er lleted y byd, nad digon ei led i'r ddau fyw ynghyd. Felly, prysurant â chleddyfau llymion yn eu dwylaw i benderfynu pa un o'r ddau sydd i aros ar y ddaear.

Y fath gyfnewidiad a ddaethai dros y lle. Heddiw, nid gwŷr llys, ond tylluanod ac ystlumod, a phethau aflan, annaearol, ydyw preswylwyr ei furiau, a haws i'r dychymyg uwchben ei anghyfanhedd-dra oedd gweled dynion meirwon yn cyniwair yn eu hamdo, a'u lleisiau meinion gwichlyd yn galaru am y gwaed gwirion a dywalltasant ar y ddaear. Prin y gellid sefyll am hanner awr yn ymyl yr adfail ar ganol dydd heb deimlo iasau ofn yn cerdded y corff, ac yn fferru gwaed y galon.

Ar ddiwrnod gwyntog ym Medi prysur nesâi Morgan a Bonnard at y lle. Symudai cymylau llwyd-ddu drwy'r nefoedd, a chodai cysgod pygddu'r storm dros orwel y gorllewin yn araf, ond yn sicr.

"Diwrnod i'r dim i fynd am dro i gyniweirfa ysbrydion," ebr Gwynn Morgan.

Nid atebodd Bonnard air ynghylch y diwrnod na'r fan a oedd erbyn hyn yn y golwg.

Meddyliai Gwynn fod golwg ryfedd a dieithr wedi dyfod i wyneb ei gyfaill. "Os peintiwr ydw i, mae Bonnard yn fardd," meddai wrtho'i hun. Ni wyddai beth oedd ym meddwl ei ffrind; ni wyddai ddim am chwerwder ei feddyliau, baich y gorffennol anniddig, ac anobaith dyfodol ansicr a thywyll.

Cychwynasai'r ddau yn fore, ac erbyn hyn teithiasent tua phum milltir, drwy fryniau prydferth, a dolydd bychain gleision yn swatio yn eu ceseiliau, rhag ofn y rhaeadr trystfawr a fynnai dorri ei wddf yn ei ffwdan