Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwerwder digyffelyb. Er hynny, amhosibl oedd y gallai fod wedi gweled y fan hon o'r blaen. Oni bai fod Gwynn wedi ymgolli yn ei freuddwydion ei hun, buasai wedi sylwi bod teimlad ei gyfaill yn gyfryw na allai hyd yn oed y fangre ledrith hon lawn gyfrif amdano. Erbyn i Gwynn droi ato, fodd bynnag, fe'i hadfeddianasai ei hun.

Mae rhywbeth annaearol yng ngolwg y lle yma," ebr Morgan.

"Dychrynllyd! Ond dydi'r meirw ddim yn cario chwedlau. Gawn-ni drio mynd i mewn?

"O'r gorau," atebodd Morgan.

"A hel yr ysbryd allan! Tybed y gwelwn-ni rywbeth o ddiddordeb? Mae golwg digon rhamantus ar y lle i fod â hanes rhyfedd iddo. Dydw-i'n synnu dim fod ar bobol ofn dwad yna yn y nos.

"Na minnau. Ond rhowch inni gael golwg agosach arno-fo."