ferch mewn sibrwd distaw. "Welsoch-chi mona i mewn gweledigaeth fel y gwelais i chi?"
"Naddo, ngeneth-i. Ond deudwch ych breuddwyd wrtha-i."
Trodd hithau ei llygaid llydain ar ei wyneb, a syndod mawr yn eu llenwi.
"Ond ddaru-chi ngalw-i wrth f'enw," ebr hi. Wyddoch-chi mo f'enw-i? "
"Na wn," atebodd yntau, "dydw-i'n gwybod dim. Beth ydi'ch enw-chi?"
"Llio ydi f'enw i. Ydi-o'n enw clws?"
"Mae-o'r clysa mewn bod. Ai dyna'r unig enw sy gennych-chi?"
"Dydw-i ddim yn gwybod; rydw-i'n anghofio. Ond hidiwch befo. Mi ddeuda i 'mreuddwyd rŵan; ond peidiwch chi â dengyd i ffwrdd wedi i mi i ddeud-o." Ac ymwasgodd yr eneth yn nes ato.
"Llio bach, wna i ddim dianc." Tynhaodd ei fraich am ei hysgwydd, ac ymgrymodd i gusanu ei gwallt o aur. Teimlai yn ei galon rywbeth anhraethol ddyfnach a chryfach na thosturi tuag at y druan anffodus hon; gwelai ei bod hi a'i chalon yn llawn cariad dieithr, dirgel, cyfrin, a rhamantus, ato ef, a gwelai hefyd nodau amlycaf cariad pur, sef ymddiriedaeth lwyr ac aberth cyflawn. Fe'i dodai Llio ei hun yn ei law yn hollol, ac âi ei galon yntau yn llawn o deimlad na allai ei esbonio, a theimlad na chawsai ei gyffelyb o'r blaen.
"Rydech-chi'n garedig wrtha i," murmurai Llio; cyn i chi ddwad, roeddwn i'n hollol unig, ond roedd y tylluanod yn dal i ddeud y buasech-chi'n dwad. Ag O, mae'r tylluanod yn gall, ag yn gwybod pob peth. Ag