Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi wyddwn innau wedyn y buasech-chi'n dwad. Ag felly mi wyliais amdanoch-chi bob nos nes i'r breuddwyd ddwad i ben. Ag mi wnewch fy achub-i, on' wnewch-chi? Rhaid imi aros yma am dipyn eto."

"Sut hynny, Llio?"

Ymsythodd yr eneth ychydig, ac edrychodd o'i chylch, â dychryn yn ei llygaid. Ond trodd ei llygaid wedyn ar wyneb hardd Bonnard, a rhyw ing prudd a phoenus yn eu dyfnder.

"Dydw-i ddim yn gwybod," ochneidiodd. "Dydw-i ddim yn gwybod; rydw-i wedi anghofio-rydw-i o 'ngho-ond ryw ddiwrnod mi gofia-i eto."

Beth sy'n ych blino-chi, Llio bach-beth fynnechchi i alw i go? Rhywbeth ddigwyddodd yn y tŷ yma ydi-o?"

"Fedra i ddim meddwl amdano; mae hi'n mynd yn dywyll bob amser pan ddechreua-i feddwl, a thrio cofio."

Rhedodd iasau a chryndod trosti drachefn, a chuddiodd ei hwyneb yn ei fynwes. Ceisiodd yntau ei thawelu drwy dynnu ei law'n garuaidd a thyner dros ei gwallt, a sibrwd yn ei chlust eiriau addfwynder.

"Hidiwch befo; fe ddaw'n ôl yn i bryd. Ond deudwch yrŵan am ych breuddwyd."

"A! Roedd hwnnw'n freuddwyd tlws! Gwrandewch-chi rŵan."

Plygodd yntau ei ben at yr eiddo hi, ac aeth hithau ymlaen:

"Dydw-i ddim yn gwybod faint sy er hynny; mae-o'n edrych yn hir iawn; rydw-i wedi gwylio am gynifer o nosweithiau. Roeddwn-i'n gweld yn 'y mreuddwyd i