Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Rydw-i wedi blino," cwynai Llio, "mae-hi'n agos i hanner nos; gadwch imi fynd ymaith."

"Sut y gwyddoch-chi i bod-hi'n hanner nos?"

"Ond y dylluan," ebr hithau, "y dylluan wen fawr sy'n nythu tu allan i'r ffenest yma, y hi fydd yn deud yr amser wrtha-i. Mi fydd yn gweiddi 'tw-hwi' bob amser tua hanner nos i ddeffro ysbrydion y meirw, iddyn-nhw ddechrau cerdded ar hyd y mynedfeydd a thrwy'r ystafelloedd yma, i gwyno'i cam, ag i..."

"Taw'r munud yma, y ffolog wallgo," llefodd y dyn yn ffyrnig, gan neidio ar ei draed, a cheisio ymunioni; crynai hithau gan ofn, a cheisio cuddio'i hwyneb. Wrth weled ei hofn, casglodd yntau nerth i chwanegu:

"Rhowch y gorau i'r lol yma, a pheidiwch â gadael imi ych clywed-chi'n siarad fel yna eto. Mae'r meirw yn gorwedd yn i beddau mewn heddwch, a dallan-nhw ddim dwad yn ôl atom-ni."

Nid atebodd hi iddo air, ond symudodd yn araf at y drws.

"O, gadwch imi fynd," sibrydodd yn grynedig, "gadwch imi fynd."

"Wel, ewch, ynteu; a chymerwch ofal rhag 'y nghyffroi a ngwylltio i," eb ef; ac yna chwanegodd, megis wrtho'i hun, "a pheidiwch â siarad gormod; dydi rhai pobol ddim yn byw'n hir wrth siarad gormod."

Amneidiodd â'i law am iddi fyned, ac wrth iddo wneud yr oedd gwên ddieflig ar ei safn; yna ymsuddodd i gadair fawr a oedd yn ymyl. Nid oedd eisiau dweud ddwywaith wrthi hi am fyned; diflannodd o'r