ystafell, a llithrodd yn ddistaw fel ysbryd dychrynedig trwy'r orielau tywyll, i fyny'r grisiau llydain. Er ei bod yn symud yn brysur a chyflym, ac er bod peryglon ar bob llaw iddi, daeth drwyddynt yn ddiogel, am ei bod yn gwybod am bob twll a chornel yn yr hen adeilad. Truenus ydoedd ei hystafell hithau, er ei bod yn berffeithrwydd esmwythyd o'i chymharu â'r lle a adawsai o'i hôl. Wedi cyrraedd iddi, disgynnodd ar ei gliniau, anadlai'n gyflym, a gwasgai ei dwylaw ynghyd.
"O, mae-o'n codi ofn arna-i pan fydd-o'n edrych fel yna," griddfanodd. "Hwyrach mai fy lladd a ga'-i, a hynny cyn iddo fo ddwad; ag O! be wnaiff-o, os daw-o yma, a nghael i wedi marw? Na, na, rhaid imi beidio â marw-mi ddaw o i ngwaredu-i-ag mi ddaw'n fuan iawn rŵan. Ag O! mi fydda-i'n ddedwydd wedyn."
Wedi i Llio ei adael, eisteddodd y dyn yn yr ystafell islaw, yn hollol lonydd am rai munudau, a gwasgodd freichiau'r gadair a'i ddwylaw teneuon, asgyrniog. Yna cododd yn araf, ac wedi cerdded at yr hen gwp- wrdd agorodd un o'r caeadau ag agoriad a grogai am ei wddf. Wedi hynny, cymerodd agoriad arall, ac agorodd ddrws bychan oddi mewn i'r cwpwrdd, a thynnodd allan becyn â golwg hen a llwyd arno. Oddi mewn i hwn yr oedd darn o bapur melyn gan oed; wedi ei agor darllenodd yr ysgrifen a oedd arno rhyngddo ag ef ei hun wrth olau'r gannwyll: "Ryder Crutch, yr ydych wedi fy ngwneud yn gar- charor yn fy nhŷ fy hun, ond ni ellwch blygu fy ysbryd byth. Gellwch ddwyn fy mywyd oddi arnaf, ond cyn sicred ag y gwnewch hynny bydd i ddialedd creulonach na'r bedd eich goddiweddyd. Y mae un a'm câr yn