Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwthiasai yntau hi oddi wrtho. Yna estynnodd ei freichiau ati, a dywedodd:

"Llio, f'anwylyd, dowch yma!"

Llamodd yr eneth ato, a'i thaflu ei hunan wrth ei draed. Dododd yntau ei fraich amdani, a thynnodd hi i'w fynwes—i fynwes lawn o deimladau cymysg cariad a phoen, chwerwder atgof am a fu, drysni cydwybod, ac ansicrwydd am lwybr dyletswydd y dyfodol.

"Fy nhlws," sibrydodd, gan gusanu'r dagrau a lanwai ei llygaid, a'r gwefusau a grynai fel yr eiddo yntau, "maddeuwch imi; doeddwn-i ddim yn bwriadu hyn. Rydw i'n ych caru-chi â holl angerddoldeb f'enaid; 'dall dim byd newid y nghariad-i—mae hwnnw mor dragwyddol â dim sydd yno-i."

"Rhaid ichi fod yn garedig wrtha-i, neu mi fydda-i farw," ebr hi, â theimlad mawr.

Felly y cysurwyd Llio ddiniwed, a daliodd ei gafael yn Bonnard â'i hymddiried blaenorol; yn wir, nid amheuodd ei ffyddlondeb o gwbl; tybiodd mai rhyw fai ynddi hi a barasai iddo ei gwthio ymaith.

Anodd oedd meddwl dial ar yr eneth ddiniwed am drosedd ei thad; ac eto, sut y gallai garu ac anwylo am ei oes ferch y dyn a gyflawnasai'r weithred honno, y dyn y tyngasai y byddai iddo dywallt ei waed? Amhosibl peidio â dial; ni allasai, pe mynasai, wneud cam â'r marw. Ond galwai cariad a chyfiawnder arno i adael Llio. Onid y nefoedd ei hun a'i rhoddasai, ac a'i datguddiasai yntau iddi hithau fel ei gwaredydd, a hynny cyn ei ddyfod, ac a'i harweiniasai i gyflawni ei genadwri. Rhaid bod ffordd allan o'r dryswch, heb dreisio coffadwriaeth y marw na chariad y byw. Cafodd yn y