Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl hwn nerth a chysur. Teimlodd sicrwydd y byddai i'r Dynged a'i harweiniodd hyd yn hyn mor ddi-feth ei arwain eto hyd derfyn y llwybr dieithr y teithiasai ar hyd-ddo.

A ddamweiniasai i Llio ddarganfod y peth yr ym- rwymasai Ivor Bonnard i'w chwilio allan? Ai hyn a ddrysodd ei synhwyrau? Trwyddi hi, felly, y gallai yntau ddyfod o hyd i'r gwir. Beth? ceisio dinistr y tad trwy ei blentyn díniwed? Edrychodd Bonnard i lawr â chalon lawn ar yr wyneb ifanc teg a orffwysai mor dawel ar ei fynwes. Yn sydyn a chynhyrfus, gwasgodd Llio yn nes i'w galon. Edrychodd hithau i fyny, a chyfarfu llygaid y ddau. Plygodd yntau'n is, a chusanodd hi yn nwydwyllt.

"Fy Llio annwyl-i!" meddai, "'y nghariad ddigefn ac unig. Doed a ddelo, mi fydda-i'n gywir ichi, a chewch-chi byth ddiodde o f'achos i."

Cadarnhawyd ei ofnau gwaethaf; ond os gallai ymguddio yn y tŷ a gwylio Ryder Crutch, credai y gallai ddyfod o hyd i'r hyn a geisiai. Ofnai hefyd beryglu Llio pan ddeallai ei thad fod ei rheswm yn dyfod yn ôl. Ei hanobaith hi oedd ei obaith ef; a galwai ei ddiogelwch am iddi barhau fel yr oedd, er na allai ei blentyn byth ei fradychu'n fwriadol. Er hynny, nid tebyg oedd y byddai i adyn mor gyfrwys, diegwyddor, a chreulawn ymddiried ei ddiogelwch i ddwylaw merch, na phetruso moment gymryd ei bywyd, os byddai hynny o ryw fantais i'w ddiogelwch ei hun.

Gwelai lawer rhwystr ar ffordd ei gynllun, ond rhaid oedd eu gorchfygu. Os rhaid oedd iddo drigo bron yn gyfan gwbl ym Mhlas y Nos, cyfiawnder â