Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynd yn gynddeiriog wrthi am bara i'w wrthod, mi llofruddiodd-hi."

"Bonnard! Ydech-chi'n siŵr?"

Gwelwlwyd oedd wyneb Bonnard, a'i ddyrnau ynghau. Am funud neu ddau, ni ddywedodd air oherwydd dyfned ei deimladau; ond wedi ei feistroli ei hun, aeth ymlaen:

"Mae'r stori mor wir à mod-i'n fyw! Wrth nad â oedd-hi'n clywed gair oddi wrth 'mam, mi ddoth Marie'n ôl i Loeger, ag mi aeth i Blas y Nos. Mi ddeallodd yn fuan fod y forwyn arall, Therese, wedi diflannu o'r gymdogaeth; mi glywodd hefyd, fod y stori rywsut ar led fod Mrs Prys wedi i mwrdro gan Crutch. Ond mae'n ymddangos nad oedd neb yn rhoi fawr o goel ar stori Therese, neu efallai nad oedden-nhw ddim wedi hanner i deall. Ond eto, mae'n amlwg oddi wrth y peth ddwedodd Mr Edwards, y Llew Coch, fod rhywrai'n ofni bod Crutch wedi mwrdro 'y mam." Mae'r stori yna y peth mwya uffernol a glywais i erioed," ebr Morgan; ond aeth Bonnard ymlaen fel petai heb ei glywed:

"Mi aeth Marie at y tŷ, ond mi fethodd fynd i mewn; yr oedd y lle wedi i gloi a'i adael. Dychwelodd wedyn i Ffrainc, gan wan ddisgwyl gweled Therese, ag mi ddoth o hyd iddi yno yn chwilio amdanom ni. Roedd i meistres wedi ymddiried llythyr iddi i'w roddi i Marie. Wrth i ddarllen, a gwrando stori Therese, mi argyhoeddwyd Marie o be fu tynged 'y mam. Roedd-hi wedi i charcharu am fwy nag wythnos yn un o'r stafelloedd; ar ôl hynny, un noson, yn nhrymder y nos, mi glywodd Therese sgrech ofnadwy gwraig—sgrech