Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

calon yn torri, a bywyd yn marw. Wedyn, chlywodd-hi ddim sŵn yn y byd. Yn i dychryn, mi ddíhangodd Therese o'r tŷ, ag mi ymguddiodd yn y coed trwy gydol y dydd drannoeth. Roedd-hi'n deud i bod-hi wedyn wedi mynd yn ôl i'r tŷ i geisio'i harian, ag wedi i cael-nhw, iddi ddianc i'r pentre nesa i drio deud yr hanes, ond na fedrai-hi gael neb yno i'w deall-hi. Ag yn i dychryn, welai-hi ddim y medrai-hi wneud dim byd ond dychwelyd i Ffrainc. Ag felly y bu. Roedd 'mam wedi sgrifennu llythyr at Marie yn union o flaen i charcharu. Yn hwnnw roedd-hi'n deud i bod-hi'n rhagweld i diwedd; roedd-hi'n gorchymyn i Marie gelu oddi wrtha i y gwir am i thynged, a f'enw gwirioneddol, nes imi gyrraedd chwech ar hugain oed; ond os gwelai-hi i bod-hi mewn peryg o farw, mi allai ddeud wrtha-i cyn hynny. Châi llaw neb ddial i cham, meddai 'mam, ond llaw i mab i hun; a doedd-hi ddim am i hynny ddifwyno gwanwyn i ieuenctid; roedd arni eisio iddo gael bore oes dedwydd a digwmwl. Yn awr, rydech-chi'n deall pam y mynnwn-i ymweld â Phlas y Nos. Mae gen-i neges ddeublyg-chwilio am fedd 'y mam, a dial ar i llofrudd-hi."

Cerddodd Bonnard yn araf yn ôl a blaen ar hyd yr ystafell, i adael amser i'w gyfaill adennill ei hunan-lywodraeth. O'r diwedd, safodd o flaen Morgan, fel y codai hwnnw ei wyneb gwelw ato, ac meddai'n dawel:

"Fuasech-chi'n ystyried saethu Ryder Crutch yn llofruddiaeth?"

Na fuaswn," atebodd Morgan yn y fan, fel petai'n setlo'r cwestiwn. "Cyfiawnder ydi-o. Ond, Ivor, be am ych peryg chi? Fedra i ddim peidio â gweld y