Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cerddodd Crutch ymlaen yn araf heibio i'r marchog arfog a safasai am flynyddoedd â breichiau estynedig ar y pared. Tu ôl i'r marchog safai Bonnard, a'i ddannedd wedi eu gwasgu'n dynion, a chilwg fygythiol yn ei lygaid golau dieithr, dialgar, marwol, a barai i'w wyneb ymddangos yn llwyd ac annaturiol. Dyma fel y gorchfygai'r dymuniad i ruthro ar ei elyn, a gwasgu ohono ei fywyd anfad.

Dan hercian ymlaen, ciliodd yr hen ŵr yn fuan o'r golwg, a gadawodd Bonnard ei ymguddfan yn ddistaw; aeth i mewn i'r ystafell a adawsai Crutch, ac archwiliodd hi'n ofalus. Nid oedd ynddi lawer o leoedd y gellid cuddio pethau ynddynt, a thynnodd yr hen gwpwrdd ei sylw ar unwaith.

Rhaid imi agor hwnna ryw noson," eb ef. Ond gwaith anodd a pheryglus ydoedd, ac yn gofyn arfau i'r pwrpas cyn y gellid ei wneud. Felly, gadawodd yr ystafell y noson honno, a chiliodd yn ôl at ystafell Llio. Diau ei bod hi, fun brydferth, ddiniwed, yn ei hystafell, a chwsg tawel fel cariad yn bwrw allan ofn o'i mynwes. Cerddodd Ivor, am hynny, yn ôl a blaen ar hyd y fynedfa ddigysur nes clywed cathl foreol yr adar yn y coed gerllaw, a gwybu wrth hynny dorri o'r wawr, a deffro o natur i lawenhau yn yr heulwen. Sylweddolodd hefyd nad oedd caddug du a phrudd Plas y Nos byth yn fwy diobaith nag ar doriad gwawr.