Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LEWIS MORRIS, Sir Feirionydd.

Oddeutu haner can' mlynedd yn ol, yr oedd yn Sir Feirionydd ŵr o'r enw Lewis Morris, yn weinidog yr efengyl gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ei hynodrwydd penaf oedd maintioli ei gorph. Yr oedd yn ddyn talach na chyffredin, a'i gorph drwyddo oll yn ddiarhebol fawr. Digwyddodd iddo fod ar gyhoeddiad yn Lerpwl, pryd yr oedd Gwilym Hiraethog yntau yn y dref; a chan eu bod yn adnabyddus o'u gilydd yn flaenorol, aeth Hiraethog i'w lety i edrych am dano. Wedi ychydig ymgom, gofynodd Lewis Morris a wnelai y bardd ychydig o englynion i'w rhoddi ar ei fedd ef, a chynnyrch addewid Hiraethog yw yr englynion canlynol:

Edrychwch! angeu a drechodd,—i lawr aeth,
Goliah'r oes a gwympodd;
Anhap fu—ŵyr neb pa fodd,
Lewis Morris lesmeiriodd.

Buodd dost ar y bedd du,—anheulu'dd,
Pan elai i'w lyncu;
Un o'i faint i'w safn ni fu,
Digon i'w fythol dagu.

Y pryfed—yn wir pa ryfedd—a unent
Mewn enwog orfoledd;
Ni bydd mwyach, bellach balledd,
Na newyn byth yn y bedd.

E' balla angeu bellach—o wendid
Ladd undyn mwyach;
Fe ddofwyd y bedd afiach—
Do yn siwr, ca'dd lon'd ei sach.




D. JONES, ARGRAFFYDD, AMLWCH.