Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iachus, ysgrythyrol a melus. Llafuriodd yn ddiorphwys a diflino yn ngwinllan ei Arglwydd hyd angau. Ymdrechodd ymdrech dêg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd. Diwedd y gŵr hwn yw tangnefedd.



Y PARCH. JOHN GRIFFITHS, Rhydywernen

(Yn Mynwent yr Annibynwyr, Rhydywernen, Meirion.)

PARCH. JOHN GRIFFITH; anwyd Tachwedd 1805; ailanwyd yn 1825. Bu farw Hydref 6ed, 1849. Ei oed 44. Bu ffyddlon hyd angau fel Aelod, Athraw, Diacon, Pregethwr ac Esgob yn y lle hwn. Meddyliwch am eich blaenoriaid."—HEB. xiii. 7.



Y PARCH. HOWELL HARRIES.

(Yn Eglwys Talgarth, Sir Frycheiniog.)

Yn agos i fwrdd yr Allor, y mae yn gorwedd y gweddillion o HOWELL HARRIES, Ysgwier; a anwyd yn Nhrefecca, Ionawr 23ain, 1713—14, O.S. Yma, lle y mae ei gorph yn gorwedd, y cafodd ei argyhoeddi o bechod, ac y cafodd selio ei bardwn, a theimlad o rym gwerthfawr waed Crist yn y Cymun Sanctaidd. Wedi profi gras ei hun, efe a ymroes i ddadgan i eraill yr hyn a wnaethai Duw i'w enaid. Efe oedd y pregethwr teithiol cyntaf a drodd allan heb urddau Eglwysig, yn yr adfywiad diweddar yn Lloegr a Chymru. Pregethodd yr Efengyl dros ysbaid 39ain o flynyddau, hyd oni chymerwyd ef i'w orphwysfa dragwyddol. Efe a dderbyniodd y rhai a geisiasant iachawdwriaeth i'w dŷ; wrth hyny y cododd teulu yn Nhrefecca, i ba rai y darfu iddo ffyddlawn weini hyd ei ddiwedd, fel dyfal weinidog Duw, ac aelod cywir o Eglwys Loegr. Ei ddiwedd oedd ddedwyddach na'i ddechreuad; gan edrych ar Iesu wedi ei groeshoelio,