efe a orfoleddodd hyd y diwedd fod angau wedi colli ei golyn; a hunodd yn yr Iesu, yn Nhrefecca, Gorph. 21ain, 1773; ac yn awr gwynfydedig orphwysa oddiwrth ei lafur.
Y PARCH. THOMAS OWEN, Llangefni.
Bu farw Mai 11eg, 1874, yn 86ain mlwydd oed, ar ol bod yn pregethu yr Efengyl yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, gyda llwyddiant nodedig, am 64ain o flynyddau. Claddwyd ef Mai 15fed, yn "Cemetery Llangefni."
"Ow! ddarllenydd, gwel heddyw'r lle huna
Ddiwyd ddifeinydd, hen dad addfwyna':
Dewr was ufudd drwy'i oes i Jehofa,—
Cu lafurwr yn ngwinllan Calfaria;
Ei gul feddrod warchoda—angylion:
I hedd, Duw Iôn o'i fedd a'i dihuna."
—Morwyllt.
THOMAS IEUAN, Pregethwr, Waenfawr.
Ar fyr fe egyr Duw Iago—y pyrth,
Sef parthau tir angho';
Fe gyfyd o gryg y gro
Gorph ei was sy'n gorphwyso.
—Dafydd Ddu Eryri.
Y PARCH. JOSEPH HARRIS, Abertawy.
Harris ddwys gudeg oedd eres ddysgawdwr,
Gwyddai brig ieithoedd, gwiwdda bregethwr;
Eirian i'r eithaf, gywrain areithiwr
Uniawn a gweddus, fedrus iawn fydrwr,
A gwir hawddgar wladgarwr,—odiaethol,
Da ŵr iawn ethol, nid rhyw wenieithwr.
—Isaac Davies, Llanfynydd.