Bedd IORWERTH GLAN ALED.
(Yn Mynwent Llansannan, swydd Dinbych.)
Y parodfawr fardd prydferth——sy'n y bedd,
O sŵn byd a'i drafferth;
Mor wir a marw Iorwerth
Farw o gân fawr ei gwerth.
Bedd ROBIN MEIRION.
(Yn Mynwent Trawsfynydd.)
Ei glod ef, fel goleu dydd,—dywyna
Hyd wyneb ein bröydd;
Ië, 'n fawr ei enw fydd
Tra saif enw Trawsfynydd.
—Ieuan Ionawr.
OWEN GRUFFYDD,
(Yn Mynwent Llanystumdwy, Arfon, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1730, yn 87 ml. oed.)
Dyma'r fan syfrdan y sydd—oer gloiad
Ar glau wych lawenydd;
Cerdd a phwyll, cywir da ffydd,
Awen graff Owen Gruffydd
Dwys fyfyr, difyr dioferedd—gamp,
A gwympwyd i'r dyfnfedd;
Pan elo cân, pinacl cainwedd,
Gloew wych fawl, gwelwch ei fedd.
—Michael Prisiart.
CYNDDELW.
Cynyddawl oes eirian Cynddelw siriol
Wedi hir fwyniant deuai'n derfynol;
Oedd fardd ac ieithydd, duwinydd doniol,
A mawr hanesydd amrywion oesol;
A meddai olud doniau meddyliol,
A'i weinidogaeth fu'n wledd fendigol;
Wrth y groes mewn nerth grasol—pregethai,
A gwir ryfeddai Gymru grefyddol.
—Ioan Madog.