Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgafn, ac y mae tawelwch dwfn dros y wlad gyfoethog ac addfed. Ac mor euraidd yw'r caeau gwenith! Mor hardd yw'r haidd a'r ceirch, a bordor o adlodd gwyrdd o'i amgylch! Un o'r rhai balchaf ar y cae, mae'n debyg, yw'r hogyn twyso. Efe sy'n cydio ymhen y ceffyl blaen, tra'n sefyll i Iwytho ar y cae, ac efe sy'n ei dywys tua'r gadles. Bydd ei fraich a'i goesau wedi blino llawer cyn y nos, ond dywed ei fam wrtho y daw'n ddigon cryf i lwytho cyn hir, neu i godi i ben y llwyth.

Cyn hir dyrnir yr ŷd, â pheiriant neu â ffust. Yna anfonir y grawn i'r odyn, i'w grasu. Oddiyno cludir ef i'r felin, a melir ef yn flawd neu beilliaid,—ac o hwn gwneir bara i ni i'w fwyta.

Ond cedwir peth o'r grawn heb ei grasu na'i falu. Had y flwyddyn nesaf yw hwn, a hauir ef pan ddaw'r gwanwyn.

COLIGNI

DYMA'R enw mwyaf arwrol, ond odid, yn hanes Ffrainc, er mai yn ddiweddar y gadawodd y Ffrancod i'r Protestaniaid roddi cofgolofn iddo, a'r Beibl agored, uwchben eu haddoldy ym Mharis. Dau nôd Ffrainc yn amser Coligni oedd deffroad cenedlaethol a rhyfel grefyddol. 'Doedd y gwladgarwch ddim yn ddigon cryf i uno'r pleidiau crefyddol dig, — a dyna oedd yn bwyta nerth Ffrainc yn y ganrif honno.

Amddiffyn ei wlad yn erbyn Spaen oedd amcan Coligni. Cymerwyd ef yn garcharor yn y rhyfel, ac yn unigedd ei garchar darllenodd ei Feibl yn