Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyfalach nag erioed; a phenderfynodd ymuno â'r Huguenotiaid, gan iddo weld mai ganddynt hwy yr oedd y gwir.

Wedi ei ryddhau, ei brif amcan oedd cadw'r heddwch rhwng yr Huguenotiaid a'r Pabyddion. Ceisiodd sefydlu gwladfa Ffrengig yn neheudir Amerig lle y gallai'r erlidiedig ddianc iddi, a chadw'r heddwch yn yr hen wlad felly. Ond methodd yn ei amcan, a daeth y gwladfawyr yn ôl, wedi dioddef llawer.

Yr oedd y Guises a'r brenin Harri'r Ail mor erlidgar, fel y gorfu i'r Huguenotiaid gydio yn y cledd. Pan aeth yn rhyfel, arweiniodd Coligni ei gyd— grefyddwyr mewn brwydr ar ôl brwydr, gan droi methiant yn fuddugoliaeth trwy ei ddoethineb a'i benderfyniad. Gwnaeth ei blaid mor gref fel na ellid ei herlid mwy. A chydag ef yr oedd Sian brenhines Navarre, a llu o dywysogion Ffrainc. Nid y rhai lleiaf o'r rhain oedd ei frodyr ef ei hun,— y cardinal Châtillon, fu farw yn Lloegr, wedi dod i erfyn ar Elizabeth helpu'r Protestaniaid;[1] a'i frawd ieuengaf hygar D'Andelot, a briodasai Lydawes.

Ond yr oedd awydd Coligni am ddyrchafu ei wlad yn gryfach hyd yn oed na'i awydd i amddiffyn ei grefydd. Denwyd ef i Baris gan ei elynion trwy addaw y cai arwain y fyddin yn erbyn y Spaenod; a llofruddiwyd ef yn y gyflafan erchyll a elwir yn gyflafan dygwyl Bartholomeus, yn 1572.

Gŵr meddylgar, prudd, agos i'w le, eang ei gyn— lluniau, oedd Coligni; un o wŷr mwyaf y canrifoedd.

  1. Gorwedd ei gorff yn eglwys gadeiriol Caer Gaint.