Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MANEG NEIFION

BETH ydyw hwn? "

Ni waeth i chwi roddi y dasg i fyny. Gwn na fedrwch ddyfeisio beth ydyw.

"Ai llaw rhyw gawr yn dod i fyny o waelod y môr?"

Nage, er ei bod yn ddigon hyll i hynny.

"Ai craig fawr ydyw, ar lun llaw? "

Nage, y mae'n feddal.

"Wel, beth ydyw? "

Ysbwng, sy'n tyfu yng ngwaelod y môr. Gwyddocb beth ydyw ysbwng (sponge). Os rhoddwch ef yn y dŵr, deil ei lond o hono; os gwesgwch ef, disgyn y dŵr yn gawod o hono. Gwn am un gŵr bach sy'n mynd â'r ysbwng i bob man,—i'r dwfr ac i'r llaeth ac i'r paent,—ac yn ei wasgu hyd ei ddillad ac hyd bob man. Ond ni ŵyr ef mai darlun ysbwng yw hwnacw. "Llaw'r bo bo" ddywed ef am dano.

Ond math o ysbwng ydyw, a thyf yng ngwaelod y môr. Enw duw'r môr yw Neifion, ac y mae'r ysbwng acw mor debyg i faneg fel y gelwir ef yn Faneg Neifion.

Llysieuyn ydyw'r ysbwng. Tyf llawer o hono yn y Môr Coch. Pan fydd wedi gwywo ac wedi sychu y mae fel yr ydym ni yn ei gael, i'n helpu i ymolchi.

PLANT DEWR

PLANT FYNN DDYSGU EU GWERSI

NID peth hawdd yw dysgu'r wers bob amser, ac y mae'n gofyn plentyn bach dewr yn ddigon aml i fynnu ei dysgu i'r diwedd.