Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelais fechgyn a genethod lawer tro â dagrau lond eu llygaid wrth ben eu llyfrau; ond yr oeddynt wedi penderfynu gorffen y wers er caleted oedd.

Peth hyfryd iawn yw cyfarfod yr athraw neu'r athrawes yn y bore, os byddwn wedi dysgu ein gwers. Ond, os na fyddwn wedi ei dysgu, bydd ein cydwybod yn euog wrth fynd i'r ysgol, ac nis gallwn fod yn blant dewr.

"Waeth i mi heb ddysgu'm gwers." ebe gŵr bach diog chwech oed unwaith, "yr wyf yn siwr o'i hanghofio ryw dro." ie, ond wrth ddysgu'r wers yr wyt wedi dysgu gorchfygu, a medri orchfygu anawsterau pan ddoi'n ddyn. Os wyt am fod yn ddigon dewr i wynebu llewod, ac i wneyd gwaith mawr pan ddoi'n ddyn, bydd yn ddigon dewr i ddysgu dy wers pan yn blentyn.

Y FALWODEN

Y MAE'R falwoden, heb ei chragen, y fwyaf diamddiffyn o bob peth. Nid oes ganddi asgwrn cefn, nid oes ganddi draed na dwylaw nac adenydd. Ac er nas gall ddianc nac amddiffyn ei hun, y mae ei chroen yn hynod deimladwy; er fod ei gwaed yn oer, ac yn wyn neu'n laswyn, yn lle'n goch ac yn gynnes fel mewn plant, medr deimlo poen.

Mae'r falwoden yn teimlo ac yn arogli, yn ôl pob tebyg, â'i chroen. O dyllau'r croen daw llysnafedd sy'n ei gorchuddio i gyd.

Tyf cragen y falwoden am dani. Odditan groen teneu iawn, tyf haen deneu. Odditan honno tyf haen arall, a dechreua yr un allanol sychu a chaledu. A