Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer o'r haenau teneuon eiddil hyn yw'r gragen gref sydd yn dŷ ac yn gastell i'r falwoden.

Mae dulliau'r cregin yn afrifed,—mewn ffurf, mewn lliw, mewn gloewder, mewn defnydd,—yn nheulu'r falwoden a'i llu o berthynasau. Ond gwneir hwy oll yn yr un modd,—adeilada'r falwoden ei chastell am dani, bob yn haen. Medr dynnu ei chyrn,—a’i llygaid ar eu blaenau,—i mewn i'r gragen. Fel rheol gall ymwasgu iddi i gyd pan fydd perygl. Ond rhaid iddi anadlu drwy'r drws.

NAIN

A WELWCH chwi Nain â'i llygad mor llon?
A fuasech chwi'n meddwl mai hen wraig yw hon?
Papur newydd, a spectol, a chader fawr wen,—
Nain ydyw honacw yn siwr, dyna ben.

Na, sbïwch, nid ydyw y spectol yn syth,
Ac fe ddelir y papur i fyny'r tu chwith;
Er eiste'n lle Nain yn y gader wen fawr,—
Dacw goesâu rhy fyrion i gyrraedd y llawr.
Nid Nain ydyw hon,
Ond Gwen fach ddireidus a'i dau lygad llon.



COEDEN OLEWYDD

Y MAE coed olewydd trwy holl barthau'r byd o China i Chili, ond yr Eidal yw eu hoff gartref yn Ewrob. Y maent i'w cael yn ein gwlad ni, ond mewn cysgod yn unig. Darllennwn am danynt