Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn aml yn y Beibl; yr oedd mynydd y gŵyr pob plentyn yng Nghymru am dano yn dda, Mynydd yr Olewydd, ar gyfer Jerusalem. Y mae dros ddeg ar hugain o fathau o goed olewydd. Dywedir mai yn Syria a gwlad Canan yr oedd y pren gyntaf; ond, gan mor ddefnyddiol ydyw, y mae erbyn hyn wedi ei blannu ym mhob gwlad bron, ond yn y gwledydd oeraf i gyd.

Llawer gwaith y bum yn edrych ar y coed olewydd ar ochr Fiesole uwchben Florens yn yr Eidal. Y mae eu dail o wyrdd tywyll, ond odditanynt y maent bron yn wynion. Pan ddoi awel o wynt i godi'r dail, byddai'r wlad werdd fel pe'n troi'n wen i gyd. Blodau gwynion bach ydyw'r blodau. Crwn neu hirgrwn yw'r ffrwyth; weithiau'n wyrdd, weithiau'n laslwyd, weithiau'n wyn.

Y mae'r coed olewydd o bob maint, yn ôl fel bo'r hinsawdd a'r ddaear y tyfant o honni. Dywedir am un yr oedd ei boncyff dros ugain troedfedd o gylchedd; a thybid ei bod yn saith gant o flynyddoedd o oed.

Y mae'r olewydden yn ddefnyddiol iawn. Y mae yr olew geir o'i ffrwyth yn werthfawr ryfeddol; a rhydd ef yn hael iawn. Y mae ei dail a'i rhisgl yn werthfawr fel meddyginiaeth hefyd.

YSGUBAU! YSGUBAU! OHO!

YN Nyfnaint, lawer blwyddyn yn ôl, yr oedd gŵr yn gorwedd yn glaf ar ei wely. Yr oedd yn dlawd iawn, ac yr oedd ganddo bedwar o blant bach amddifaid. Gwneyd ysgubau oedd ei waith, a mynd â hwy ar gefn mul i'w gwerthu yn y dref. Yr