Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn rhy wael i fynd â'r ysgubau yn ôl ei arfer, ac yr oeddynt heb damaid o fara yn y tŷ.

"Bob," ebai'r tad wrth ei fachgen hynaf, " a fentri di i'r dref i dreio gwerthu ysgubau, ac i brynnu torth? Y mae'n ddydd Sadwrn heddyw, a rhaid i ni gael rhywbeth at yfory."

Mi wnaf fy ngoreu, fy nhad," ebe'r bachgen.

Gwisgodd ei ddillad goreu, dillad tlodaidd ond glân, oedd ei fam wedi eu gwneyd iddo'n ofalus. Wylai'r tad yn ddistaw wrth weld y smoc wen a'r hosanau cynnes a'r cap cartref; cofiai mor ofalus oedd eu mham am y plant pan oedd yn fyw. A heddyw dyma hwy heb damaid o fara yn y tŷ.

Yr oedd yn fore oer, ond cychwynnodd Bob yn galonnog ar gefn Jeri'r mul tua'r dre, a baich o ysgubau o'i flaen. Ai dan ganu, gan feddwl am y dorth fawr a'r melusion fyddai ganddo'n dod adre. Nid oedd wedi medru gwneyd dim erioed o'r blaen i helpu ei dad a'r plant. Ond heddyw teimlai ei hun yn ddyn.

Druan o Bob ni wyddai fawr am y dref. Bu'n crwydro drwy'r dydd hyd yr heolydd, heb damaid o fwyd, gan gynnyg ei ysgubau mewn llais gwan. Ond ni phrynnai neb yr un, chwarddai llawer am ei ben, a rhegodd un ef am gynnyg ysgub iddo. Yr oedd y nos yn dod, a dechreuodd y bachgen wylo, gan siom ac anwyd ac eisieu bwyd. Meddyliai am ei dad ar ei glaf wely, ac am y plant bach yn disgwyl ei weld yn dod adref â bwyd iddynt. A dyma yntau'n methu gwerthu yr un ysgub.

Pan oedd mew anobaith mawr, dyma fachgen hŷn nag ef heibio, mewn dillad trwsiadus a da. Yr oedd dau ddyn ar ben drws newydd wawdio Bob gan beri