Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo roddi'r ysgubau'n fwyd i'r mul. Wylai yntau'n chwerw. Gofynnodd y bachgen dieithr iddo am ba beth yr oedd yn wylo; a dywedodd Bob yr hanes iddo i gyd trwy ei ddagrau.

"Paid a wylo." ebe'r bachgen caredig, "ni a'u gwerthwn i gyd cyn nos." Troisant yn ôl drwy'r ystrydoedd. Cymerodd Ernest Martin ysgub ym mhob llaw a dechreuodd waeddi dros y fan,—

"Ysgubau! Ysgubau! Oho!" Daeth y bobl i bennau eu drysau, ac yr oedd pawb am brynnu ysgub gan fab y Plas. Ymhell cyn nos yr oedd pob ysgub wedi ei gwerthu. Aeth Bob a llond ei boced o arian adref, heblaw digon o fwyd am bythefnos. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y cartref tlawd pan ddaeth Bob adre.

Ymhen ugain mlynedd wedi hyn, yr oedd catrawd o wŷr Dyfnaint yn un o frwydrau gwaedlyd y Crimea, ac yn gorfod cilio o flaen y gelyn. Yr oedd y Rwsiaid yn eu herlid ar ffrwst, ac yr oeddynt yn ceisio cyrraedd bryn gerllaw cyn i'r gelyn eu gorddiwes. Wrth iddynt encilio felly, clwyfwyd y Capten Ernest Martin, a syrthiodd i lawr. Cyn pen y deng munud byddai meirch filwyr y gelyn yn ei fathru dan draed. Cydiodd milwr cryf ynddo, a chludodd ef ymlaen yn ei freichiau.

"Filwr dewr," ebe'r capten, "gollwng fi i lawr i farw ac achub dy fywyd dy hun."

A ydych yn cofio fel y gwerthasoch yr ysgubau imi ugain mlynedd yn ôl," ebe Bob, "mi a af â chwi i ddiogelwch neu fe fyddaf farw gyda chwi." Cyrhaeddasant y bryn cyn i'r gwŷr meirch eu dal. Rhoddodd Bob y capten i lawr, a safodd i wynebu'r gelyn o i flaen. Medrodd daflu pob march yn ei ôl, er cadarned yr ymgyrch, nes y gwelwyd y Welsh Fusiliers