Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BEIBL COLL

YCHYDIG ddyddiau'n ôl yr oedd geneth felyn—wallt, dlodaidd yr olwg arni, yn sefyll fel tyst yn un o lysoedd Lerpwl, ac ni wyddai neb ar wyneb y ddaear beth oedd yn ddweyd, gan ddieithried ei hiaith. Yr oeddwn newydd daro ar hen gyfaill i mi, un o ysgolheigion Slafonaidd goreu'r oes, a daethom i'r llys pan oedd yr eneth yn sefyll yn fud o flaen ei chroes—holwr. Wedi gadael y tystle daliai'r eneth i wylo ac i ocheneidio, gan ruddfan ambell i air dieithr, hyd nes y dechreuodd fy nghydymaith siarad â hi, gan ei chysuro yn ei hiaith ei hun. Lithuaneg oedd yn siarad, ac yr oedd yn un o gwmni mawr o ymfudwyr i'r Amerig. Yr oedd wedi colli ei chyfeillion yn Lerpwl, ni wyddai ddim am ei llong, a rhywfodd neu gilydd yr oedd wedi ei dwyn i lys cyfraith fel tyst.

Wedi gwneyd yr hyn a fedrem dros yr eneth, dechreuodd fy nghyfaill a minne ysgwrsio am anawsterau’r teithiwr uniaith. Meddem brofiad ein dau,—yr oeddym yn gwybod beth oedd methu esbonio pan mewn cyfyngder ac mewn perygl am ein bywyd, er y buasai un frawddeg yn dofi llid ein gwrthwynebwyr, pe medrasem ei dweyd. "Bum mewn carchar ym mhellteroedd Siberia unwaith," ebe'm cyfaill, "wedi methu dweyd yn iaith y llywodraethwr beth oeddwn. Mi freuddwydiais yn y carchar hwnnw fy mod yn perthyn i genedl heb Feibl, a'm bod yn sefyll o flaen gorseddfainc Duw heb ddeall iaith y llys."

Cenedl heb Feibl! Ehedai'm meddwl at Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg, pan ddywedai rhai na chai'r Cymry siarad â Duw hyd nes y dysgent Saesneg, a