Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phan erfyniai William Salisbury ar Frenhines Lloegr adael i bob tafod glodfori Duw. Wedi hynny, bu Cymry'n cyfieithu'r Beibl i drigolion bryniau'r India a thraethellau Madagascar, fel y clodforai pob tafod Dduw.

"Bu'm gwlad i," ebe fi wrth yr ysgolhaig Slafonaidd hwnnw, " heb ddeall ei Beibl am gant a hanner o flynyddoedd wedi ei gael, a hawdd y gallasai Beibl prydferth yr Esgob Morgan fynd ar goll." "Felly yr aeth Beibl yr eneth wylofus acw," atebai'r gŵr dysgedig, " yr wyf newydd ddarganfod fod Beibl Lithuanaidd mewn bod yn 1660, ond erbyn heddyw, hyd y gwyddis, nid oes gopi o honno ar wyneb y ddaear. "Y mae'r erlidiwr wedi gorffen ei waith."

Felly y bu gyda Beibl un genedl arall. Ar lethrau'r Pyrenees y mae cenedl y Basques yn byw, ac ni ŵyr ieithyddwyr pwy oedd eu brodyr a'u cefndryd, os nad cyn—drigolion mynyddoedd Prydain, sydd wedi gadael ambell enw, a hynny'n unig, ar ambell afon neu garreg neu fryn. Yr oedd Margaret o Yalois, brenhines Xavarre,—Ann Griffiths y Diwygiad Ffrengig,— wedi rhoddi iddynt Feibl yn eu hiaith eu hunain yn amser y Diwygiad Protestanaidd. Ond yn ystod erledigaethau ofnadwy'r ail ganrif ar bymtheg, canrif adfywiad Eglwys Rufain, collwyd y Beibl o'r mynyddoedd hynny'n llwyr; un copi'n unig oedd ar gael pan ail gyfieithwyd y Beibl i'r iaith ddieithr honno gan Gymdeithas y Beiblau, ac yn Llundain yr oedd hwnnw.

Dyna ddwy esiampl o genedl wedi colli ei Beibl : a wyddis am Feibl wedi colli'r genedl a'i darllenai? Y mae llawer Beibl coll, ond a oes yn rhywle Feibl mud? Breuddwydiais, y noson wedi llenwi papur Cyfrifiad 1891, fod cyfrifiad wedi dod pan nad oedd