Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb yn medru deall y Beibl Cymraeg. Yr oedd Duw'n siarad â'n horwyrion mewn iaith ddieithr. Yr oedd Beibl Cymru'n fud.

Nid oes dim rydd gymaint o gryfder i fywyd cenedl a chael Beibl yn ei hiaith ei hun. Buasai'r iaith Gymraeg wedi darfod oddiar wyneb y ddaear ymhell cyn hyn oni buasai am y Beibl. Y Beibl ydyw r peth Cymraeg olaf i Gymro golli ei afael ynddo. Ar lan rhyw afon bellennig neu yn nwndwr rhyw dref fawr y mae gwraig llawer Cymro'n Saesnes, ei blant yn Saeson, ei gymdogion yn Saeson, ond, hyd y diwedd, y mae ei Feibl yn Feibl Cymraeg. Proffwyda rhai y bydd y Beibl Cymraeg rywbryd,—fel y parot glywodd Humboldt yn siarad iaith llwyth oedd wedi ei difodi,— heb neb i'w ddeall. Nid aiff Beibl Cymru byth yn Feibl coll, nad eled ychwaith yn Feibl mud.