Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pellen y teleffon wrth ei glust, a chlywodd yr ystori ryfeddaf glywodd erioed. A phob dydd ai Del i ystafell y teleffon, a rhoddai'r bellen wrth ei glust, a chlywai stori newydd. Ni wyddai o ble doi'r ystraeon, tybiai mai rhyw angel bach, neu un o blant y Tylwyth Teg, oedd yn eu dweyd wrtho yn y pen arall. Ond cewch chwi farnu pan glywch hwy.

Mae Del yn gwenu'n hapus,
Fe ddwed y llygad llon
Fod stori felus felus
Yn dod o'r bellen gron.


MELIN Y MOR

'Roedd Del yn gwybod llawer
O bethau rhyfedd iawn,
Ac o gwestiynau dyrus
'Roedd meddwl Del yn llawn;
Ond yr oedd un rhyfeddod
Oedd Del yn fethu ddallt,—
Tra'r oedd pob dŵr yn groew,
Pam 'roedd y môr yn hallt?


YR oedd Del wedi synnu llawer pam yr oedd y môr yn hallt. Aeth gyda'i fam at y môr ryw dro, gwelodd y môr mawr, ac yfodd lymaid o'r dŵr. Ni yfodd ddim o ddŵr y môr ond hynny. A synnai pam yr oedd mor hallt.

Ryw ddydd rhoddodd Del y bellen wrth ei glust. A chlywodd pam yr oedd halen yn nŵr y môr. Yr oedd hen ŵr doeth yn byw yng ngwlad yr eira. Yr oedd wedi gwneyd melin iddo ei hun, melin fechan hawdd ei chario, ac yr oedd yn felin ryfedd iawn.