Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Doi o'r felin beth bynnag ofynnech am dano, ond ni fedrai neb ei stopio ond yr hwn a'i gwnaeth. Ryw ddydd daeth dyn blysig i'r wlad, dyn hoff o yfed cwrw, a meddyliodd,-" Pe cawn i'r felin, cawn ddigon o gwrw bob dydd." Lladrataodd y felin, ac aeth â hi i bant y mynydd. "Cwrw!" ebai ef wrth y felin. A dyma gwrw'n dod, yn ffrwd fudr goch. Cyn hir yr oedd y dyn yn feddw, ac yn eistedd ynghanol llyn o gwrw, a hwnnw'n cronni o'i gwmpas. "Paid," meddai wrth y felin; " digon, digon! " Ond ni pheidiai'r felin. Llifodd y cwrw dros y pant, ac i'r afon. Ni wyddai neb pam yr oedd y dŵr mor ddrwg. Ond gwelwyd o'r diwedd mai cwrw oedd yn llifo o rywle yn y mynydd. "Fy melin i sydd yno," ebai'r hen ŵr, " ac y mae'r hwn a'i lladrataodd yn methu ei stopio." Erbyn mynd i'r pantle, wele lyn o gwrw coch, a ffrwd yn bwrlymio i fyny o'r gwaelod. " Dacw lle mae fy melin fach i," ebe yr hen ŵr, " sut yr awn ni ati hi? " Cawd cwch, a dacw ollwng bach i lawr, a dacw'r felin yn dod i fyny dan bistyllio cwrw. Sisialodd yr hen wr rywbeth wrthi, a pheidiodd yn y fan. Sychodd y llyn cyn hir, ond nid oes dim yn tyfu yn y pantle hwnnw byth.

Yn ymyl cartre'r hen wr, yr oedd cloddfa halen. Yr oedd halen yn ddrud iawn yn yr amser hwnnw. Yn yr hen amser, a rhaid i ti gofio, Del bach, mai yn yr hen amser yr oedd hyn,-yr oedd pobl yn byw yn y gaeaf ar gig hallt, ac yr oedd yn rhaid cael halen.

Wel, daeth capten y llong halen at y gloddfa, a chlywodd hanes melin yr hen wr. Ac ebe ef wrtho ei hun,-" Pe cawn i hon, fyddai raid i mi ddim dod dros y môr i chwilio am halen, byddai gennyf ddigon o hyd." A'r noson honno, aeth i dŷ yr hen wr, ac aeth