Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â'r felin oddiarno trwy drais. Cyn y bore yr oedd wedi lledu ei hwyliau, ac yr oedd y llong yn croesi'r môr tuag adre. Synnai'r morwyr pam yr oedd y capten yn mynd adre â'i long yn wâg, heb ddim halen. "Os nad oes gennyf halen," ebe'r capten wrtho ei hun, yn llawen, "os nad oes gennyf halen, y mae gennyf felin fedrai lenwi'r môr." Ac ebai wedyn,—"Ni roddaf waith iddi nes cyrraedd y tir." Ond yr oedd arno awydd mawr am weld y felin yn gweithio. "Mi geiff ddechre yn awr," meddai, ac aeth i'w gaban at y felin fach.

"Halen!" meddai. Dyma'r felin yn dechre mynd, a halen gwyn glân yn dod o honi. "Dyma'r halen gore welais i erioed," ebai'r capten, " gyrr arni hi, felin fach. Mi ddofi i edrych am danat ti toc." Cauodd y drws ar ei ôl, ac aeth ar y dec. Ymhen hir a hwyr aeth at y drws. Ond ni fedrai agor yn ei fyw. Yr oedd llond y caban o halen, ac ni fedrai neb agor y drws. Yr oedd yr halen yn llifo allan dan y drws hefyd.

"Dyna ddigon, da iawn, fy melin fach i, paid yrwan." ebai'r capten, gan deimlo wrth ei fodd. Ond dal i falu'r oedd y felin o hyd.

"Paid!" ebai toc, mewn llais uwch, ond nid oedd y felin yn gwrando.

Yna dechreuodd gicio'r drws. "Paid bellach, felin y felldith." meddai. Ond ni pheidiai'r felin ddim.

Dychrynnodd y capten. Ond yr oedd yn rhy hwyr. Aeth llwyth y llong yn ormod; a dacw hi'n suddo. Aeth i waelod y môr, a'r felin ynddi. Ac y mae'r felin yng ngwaelod v môr byth, yn malu halen. A dyna pam mae'r môr yn hallt.

Dyna'r stori glywodd Del. Nid ydyw'n wir; ac yr