Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyf yn sicr nad oes melin yng ngwaelod y môr. Ond dywed Del,—" Sut y gwyddoch chwi, fuoch chwi erioed yno. Yr wyf fi'n siwr ei bod hi yno." Gwrando. Del bach, mi esboniaf i ti pam mae'r môr yn hallt. Y mae halen yn y creigiau, a halen yn y ddaear. Yn naear sir Gaer, y mae cloddfeydd halen. Y mae'r dŵr yn rhedeg dros y creigiau, a thrwy'r ddaear. Y mae'n toddi'r halen, ac yn ei gario gydag ef i'r môr. Y mae pob afon yn cario halen i'r môr,— y Ddyfrdwy o'r creigiau, a'r Hafren o'r gwastadedd, —ond nid oes digon o halen ynddynt i wneyd eu dŵr yn hallt.

Y mae'r haul, trwy ei wres, yn gwneyd i'r dŵr godi o'r môr, yn darth ac yn niwl. A'r dwfr hwnnw ydyw'r cymylau, a'r gwlaw. Ond, pan fo'r dwfr yn codi yng ngwres yr haul, nid yw'r halen yn codi gydag ef. Y mae'r halen yn rhy drwm. ac y mae'n gorfod aros ar ôl. Nid oes dim halen yn y gwlaw, a dyna pam y mae dwfr gwlaw mor ferfaidd. Felly, y mae'r dwfr yn cario halen i'r môr. ond ni ddaw â dim oddiyno. Dyna pam mae'r môr yn hallt

"Nage," meddai Del, "y felin fach sydd ngwaelod y môr."

"Mi wn i pam mae halen
Yn nwfr y môr yn stor,—
Mae'r felin fach yn malu
Yn nyfnder mwya'r môr."