Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y FODRWY

"Sut mae gwneyd rhyfeddodau,"
Meddyliai Del ryw dro,
"Sut mae codi pontydd,
A gyrru'r niwl ar ffo,
A sut mae dysgu Saesneg,—
Gwyn fyd na fedrwn i
Eu gwneyd trwy ddim ond meddwl,
Trwy ddwedyd, 'Gwneled chwi.


ANODD iawn, meddyliai Del, oedd gwneyd llawer peth. Anodd iawn oedd gwneyd tasg,—rhifo ac ysgrifennu a dysgu allan. Ond beth oedd hynny wrth wneyd pontydd, a ffyrdd, a thai mawr, a llongau? A thybiai Del,—tybed a oedd rhyw ffordd i wneyd y pethau hyn mewn munud, ac heb ddim trafferth. A thra'n tybio hynny, rhoddodd y bellen wrth ei glust, a chlywodd stori.

Ryw dro yr oedd dyn melynddu'n crwydro drwy un o heolydd Caer Dydd, ac yr oedd bron a diffygio gan eisieu bwyd. Daeth at ddrws, a gofynnodd a gai droi i'r tŷ i orffwys. Dywedodd y gwas eiriau garw wrtho, gan beri iddo fynd i ffwrdd. Ond daeth bachgen bychan yno, mab y tŷ, a gwnaeth i'r gwr gwael ddod i'r tŷ. Yr oedd yn amlwg na fedrai'r dyn dieithr fyw yn hir. "Bum yn dywysog yn yr India," meddai, ' ac yn awr yr wyf yn chwilio am le i farw."

Cafodd y tywysog tlawd le i orffwys yng nghartref Iefan Hopcin, ac yno y bu farw. Yr oedd wedi hoffl Iefan, galwai am dano ai ei wely yn barhaus. a chyn marw rhoddodd iddo fodrwy. " Y mae swyn yn y fodrwy hon," meddai, modrwy hen ddewin ydyw, roddodd imi wrth farw yng ngwlad fy nhadau. A