Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn ydyw ei rhinwedd,—pa beth bynnag a ewyllysio yr hwn a'i gwisg, fe a fydd iddo. Ond nis gellwch ail ewyllysio â hi heb roddi ei benthyg i rywun arall, i'w defnyddio unwaith."

Bu'r tywysog farw, a chladdwyd ef, a rhoddodd Iefan y fodrwy am ei fys ei hun. Ymhen yr wythnos yr oedd Iefan yn mynd i'r ysgol i Loegr. Yr oedd yr athraw yn wr nwyd-wyllt, creulawn, ac wedi curo Iefan lawer gwaith ar gam Pan ddaeth y bachgen i'r ysgol yn ôl, dyma'r athraw yn dweyd.—" Dacw'r bachgen drwg yn dod yn ôl." Ac ebe ef wrtho,— " Iefan Hopcin, gwyddwn lawer o'r drwg a wnaethost cyn i ti fynd adre; ond, wedi i ti fynd, gwelais nad oeddwn wedi ei wybod i gyd. Tydi laddodd fy nghywion ieir i yn yr ardd, onide? Y peth cyntaf a wnaf â thi yw dy chwipio."

Yr oedd Iefan mewn ofn mawr. Nid efe oedd wedi lladd y cywion. Ond gwyddai y cai ei gosbi, a gwyddai beth oedd y wialen yn dda, er mai bachgen diniwed oedd.

"Iefan Hopcin," ebe'r athraw cyn hir, "dos i'r ystafell nesaf i gael dy chwipio. Daw'r is-athraw Phillips i osod y wialen amat." Dyn cam hyll oedd Phillips, dyn â llygaid croes. a hen chwipiwr heb ei fath. Aeth y plant yn ddistaw i gyd, a disgwylient bob munud glywed llais Iefan yn gwaeddi dan y wialen. Ond cyn i'r chwipiwr fynd â'i wialen, aeth yr athraw at Iefan.

"Helo," meddai, " yr wyt wedi mynd yn falch. Pwy hawl sydd gen ti i wisgo modrwy am dy fys? Tynn hi, mewn munud, a dyro hi i mi."

Tynnodd Iefan y fodrwy, dan wylo, a rhoddodd hi i'r athraw.