Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wylo'r wyt ti," meddai'r athraw, a'r fodrwy yn ei law. " Ffei o honot, wylo; a thithe mewn ysgol mor dda. Gwna'n fawr o dy fraint, 'doedd yr un ysgol fel hyn pan oeddwn i'n fachgen. O na chawn i fod yn dy le di!"

Gydag iddo ddweyd y gair, drwy rin y fodrwy, aeth yr hen athraw fel y bachgen, a gallasech feddwl fod dau Iefan Hopcin yn yr un ystafell.

"Beth ydi hyn, beth ydi hyn?" ebe'r athraw, mewn cyffro mawr.

Esboniodd Iefan natur y fodrwy oedd yn ei law, gan ddweyd y doi y peth bynnag a ewyllysiai i'r hwn a'i gwisgai. Yna cymerodd y fodrwy o law yr athraw, gan ddweyd mai ei dro ef oedd y nesaf i ewyllysio. "O'r gore, fy machgen i," ebe'r athraw, "dywed wrth y fodrwy am fy rhoi yn fy llun fy hun, fy machgen pert i."

Ond y peth a wnaeth Iefan oedd ewyllysio bod fel yr athraw. A dyna'r bachgen a'r athraw wedi newid llun. Aeth Iefan o'r ystafell chwipio i'r ysgol, ac at ddesc yr athraw. Rhoddodd wydrau'r athraw ar ei lygaid, a meddyliai'r plant i gyd mai'r athraw oedd. Ond yr oedd yr athraw, druan, yn yr ystafell chwipio. Aeth y chwipiwr yno; a chlywodd y plant waeddi mawr. Toc daeth y chwipiwr allan, a chan foes-ymgrymu tua'r ddesc, dywedodd,—

"Syr y mae Iefan Hopcin o'i go. Dywed mai efe ydych chwi, syr. Ac am hynny, syr, mi a'i chwipiais ef yn waeth o'r hanner."

"Dos yn ôl ato," ebe Iefan, "a dywed y caiff ei chwipio'n waeth eto os dywed mai y fi ydyw. A ydyw wedi cyfaddef mai efe laddodd y cywion ieir?"

"Na, syr, y mae'n gwadu'n waeth nag erioed.