Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid y fi ddaru,' meddai, ' ond Iefan Hopcin.' A beth mae hynny'n feddwl, syr, nid wn i ddim yn wir. Yr ydych chwi'n hen ac yn gall, hwyrach y gwyddoch chwi."

"Gwn yn dda," ebe Iefan, "dywed wrtho am beidio dweyd gair wrth neb. a phâr iddo ddyfod i ysgrifennu Kindness is the highest virtue gan waith."

Synnai'r plant pam yr oedd yr hen athraw mor fwyn, ac yntau yn un mor greulon gynt. Ond ni wyddent hwy ddim am y fodrwy.

Dyna'r stori glywodd Del; a daeth swn o'r bellen i ddweyd, hefyd, y cai ychwaneg o hanes Iefan Hopcin a'r fodrwy.

"Ha! ha!" medd Del yn llawen,
"Daeth Ifan bach yn gawr;
A dyn y llygaid croesion
Yn chwipio'r hen athraw mawr."


HEN WR Y COED

Mae morwr, dyn a'i helpo,
Dan benyd mewn gwlad bell;
Am lawer Cymro, druan,
Ni ddwedir stori well.

Mi welaf fachgen ieuanc
Yn hoffî'r mwg a'r medd,
Mi welaf hwnnw'n henwr
Yn gaethwas hyd ei fedd.


DEUNAW oedd oed Morgan pan adawodd ynys Môn. Yr oedd wedi meddwl er pan yn fychan am fod yn forwr. Bu'n hel cregin ar y traeth lawer gwaith, i gael clywed su y môr ynddynt yn y