Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nos. Bu'n gwylio'r llongau'n pasio pen Caer Gybi aml i dro, ac mor aml a hynny'n dymuno bod ar eu bwrdd. Pan welai'r hwyliau gyntaf yn ymddangos dros y gorwel, torrai i ganu,—

Dacw'r llong a'r hwyliau gwyrddion
Ar y môr yn mynd i'r Werddon,
O! na fuaswn inno ynddi,
Gyda'r morwyr, ddedwydd gwmni."

Ond mynd yn ôl i'w gartref oedd raid i Forgan, er cymaint ei awydd am long a môr. Ai i'r ysgol, a difyrrai ei hun yno drwy dynnu Ilun llong ac ynysoedd na welodd neb hwy, ond meddwl Morgan.

A rhyw ddydd, pan wedi gadael yr ysgol, gwelwyd ef ar fwrdd llong hwyliau yn Lerpwl, yn ffarwelio â'i gyfeillion, pan oedd y morwyr yn codi'r angor. Yr oedd yn fore hafaidd, a chwareuai'r hwyliau yn ysgafn yn awelon Mai. Yr oedd yr awyr yn las a digwmwl, ond fod ambell i gwmwl gwyn, fel blodau'r eira, yma ac acw. Wedi bod yn morio am ddyddiau lawer, mae'r tywydd yn newid, a'r gwynt yn codi. A daeth yn ystorm fawr. Collwyd pob llywodraeth ar y llong, gadawyd hi i drugaredd y gwynt, heb hwyl, heb raff, heb angor. Felly bu am amser, ond yn sydyn tarawodd ar graig. Dacw'r dŵr yn dod i fewn yn genllif. Ceisiwyd gollwng y cychod. ond nid oedd modd, gan anterth yr ystorm. Ofnai Morgan mai boddi a wmai, a thra'n hiraethu am Fôn ac aelwyd gynnes y Tŷ Mawr, tarawodd tonn fawr ef i'r môr. Ond yn ffodus cafodd afael mewn darn o'r hwylbren. a rhwng y pren, y tonnau, a'r gwynt, taflwyd ef i dir.

Ni wyddai pa le'r oedd, ond diolchai am gael daear dan ei draed. Edrychai ar y blodau a'r coed,—ond