Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oeddynt oll yn ddieithr iddo, ac yn wahanol i goed a blodau Cymru. Nid oedd dim a adwaenai ond y cymylau a'r haul. Cyn hir crwydrodd yn brudd, wedi colli ei holl gyfeillion, i weld y wlad. Ofnai glywed swn llewod a chreaduriaid gwylltion. Daeth i gwrr coedwig eang, dywell. Wedi teithio'n hir daeth at afon fawr, ac ar ei glan gwelai hen wr tal crymedig, a'i bwys ar ei ffon. Cyfarchodd well iddo. Ond nid oedd y naill yn deall iaith y llall. Cyfeiriodd yr hen wr ei fys at yr afon. Gwelodd Morgan fod arno eisio croesi. Cynhygiodd ei gefn i'r hen wr, rhoddodd ef ar ei ysgwyddau, a'i draed am ei wddf. Pan ar ganol yr afon, ofnai fod ei faich yn rhy drwm ac y byddai'n rhaid ei ollwng i'r afon, ond llwyddodd i gyrraedd yr ochr draw. Yna safodd i'r hen wr ddisgyn, ond nid oedd hwnw'n symud. Ysgydwodd ychydig rhag fod yr hen wr yn cysgu, ond cydiai'n dynnach am ei wddf. A mwyaf yn y byd ysgydwai Morgan, trymiaf yn y byd y gwasgai yntau. Ac y mae Morgan yno byth yn cario'r hen wr. Del bach, paid a chymeryd yr hen wr ar dy ysgwydd, ni ddaw i lawr. Ysmocio, Ymyfed, Tyngu,—dyna rai o enwau'r hen wr.

Mae Morgan dan ei benyd,
Mewn bywyd caeth a phrudd,
Ond tra bo anadl ynddo,
Bydd Del yn fachgen rhydd.