Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TRI CHI BACH

ROEDD tri chi bach yn byw mewn cenel clyd,
Ac ni fu cwn erioed mor wyn eu byd;
Ond trwy bob dydd gofynnai'r tri i'w mam,—
"Pr'yd cawn ni fynd allan i chware naid a llam?"

Ac ar ryw ddiwrnod braf wele dri chi bach
Yn rhedeg hyd y caeau yn llon ac iach;
Ac wele hwy'n dod at dawel lyn o ddŵr.
Ac yn y llyn hwy welent ryfeddod yn siwr.

'Roedd tri chi bacli yng ngwaelod y llyn,
Yn edrych i fyny o'r dŵr mor wyn,
'Roedd tri bach ymchwilgar yn gofyn i dri,— "
Y cwn bach gwynion, pwy ydych chwi? "

Gwenai tri chi bach uwch ben y llyn,
A gwenai'r lleill arnynt yn swynol a syn;
Ond toc wele dri yn cyfarth yn ffôl.
A thri bach y llyn yn cyfarth yn ôl.

Ebe'r tri,—"Ni ddioddefwn ni sen fel hyn; "
Ac ymaith â hwy ar eu pen i'r llyn;
Tarawodd eu pennau y gwaelod yn glau,
A dacw dri chi bach yn edifarhau.

Os gwenwn ni, cawn wenau yn ôl,
Ond gofid a gawn wrth ymosod yn ffol;
Ein hawydd i ymosod yn fwynder a droer
Wrth gofio'r cwn bach fu yn y dŵr oer.