Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWR ANFOESGAR.

YR oedd nifer o ddynion yn eistedd ar hwyrnos haf ger un o amaethdai sir Drefaldwyn. Yr oeddynt yn dadleu a oedd rhyw englyn yn iawn. Pan oeddynt ar ganol dadleu, daeth gŵr ar gefn ei Geffyl o gyfeiriad yr amaethdy. a gwaeddodd amynt,—

"Fechgyn drwg, agorwch y llidiart."

Rhedodd un ohonynt i agor iddo, ond yn lle diolch i'r bachgen am ei gymwynas, trodd ato ar ei geffyl a dywedodd yn sarrug,—

"Anrhydedd mawr i ti oedd cael agor y llidiart i mi; a gobeithio na welaf fi mo dy wyneb hyll di byth eto. Mae dy wep di gen wirioned a gwyneb y llo yma."

Yr oedd gan y cigydd lo, wedi ei brynnu yn yr amaethdy; ac yr oedd yn mynd âg ef adref ar frys i'w ladd ar gyfer priodas. Gwyneb digon hagr oedd gan y llanc, rhaid dweyd, ond yr oedd ganddo feddwl cyflym, a chalon deimladwy iawn.

"Mi ddoi di y ffordd yma eto heno," ebe ef wrth y cigydd.

"Ha ha! y gwyneb bwbach," ebe hwnnw, "wyt ti'n meddwl y medri di fy witsio i, fel y witsiodd Huw Lwyd Cynfel yr hen Edmwnd Prys?"

"Fechgyn," ebe Ifan y Gors, "chwi gewch weld y gŵr yna yn eich pasio eto, wedi newid ei dôn." Cymerodd fenthyg esgid newydd o siop crydd gerllaw. Yna rhedodd hyd lwybr y gwyddai am dano, a daeth i drofa yn y ffordd cyn i'r cigydd gyrraedd y fan honno, achos yr oedd y ffordd yn dolennu llawer.