Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Taflodd Ifan yr esgid newydd i ganol y ffordd; ac ymguddiodd y tu ôl i'r gwrych, i weld beth ddigwyddai.

Toc cyrhaeddodd y cigydd y drofa, a gwelai'r esgid newydd ar ganol y ffordd.

"Jaist i," meddai, "dyma Iwc. Dacw esgid newydd ar lawr. Ond 'does acw ddim ond un. Piti na fuasai dwy. Wna i ddim byd ag un, waeth i mi heb ddisgyn oddiar fy ngheffyl oddiwrth y llo yma."

Felly aeth yn ei flaen. Gydag iddo fynd o'r golwg, plannodd Ifan o'r gwrych, a chododd yr esgid newydd. Yna rhedodd mor gyflym ag y gallai hyd lwybr byrr, a chyrhaeddodd drofa arall cyn i'r cigydd ddod. Taflodd yr esgid newydd i ganol y ffordd drachefn, ac ymguddiodd fel o'r blaen. Prin y cafodd ymguddio cyn i'r cigydd ddod.

Jâl," ebe hwnnw, " dacw'r esgid arall. Y ffasiwn biti na fuaswn i wedi codi'r llall! Ac y mae arna i eisio esgidiau newyddion hefyd. Mi af yn fy ôl i geisio'r llall."

Disgynnodd, rhwymodd ei geffyl wrth goeden, rhoddodd yr esgid newydd ar y ceffyl, a chychwynnodd yn ei ôl i geisio'r esgid arall, feddyliai ef. Gydag iddo fynd o'r golwg daeth Ifan o du ôl y gwrych, a chymerodd yr esgid oddiar gefn y ceffyl. Cymerodd y llo ar ei gefn hefyd, a ffwrdd âg ef yn ôl hyd y llwybr byrr. Cymerodd y llo i'r amaethdy lle prynesid ef, a phenderfynodd y ffarmwr gael rhan o'r digrifwch. Yna aeth Ifan i eistedd at y llanciau fel o'r blaen.

Cyn bo hir dyma'r cigydd ar ei geffyl heibio iddynt yn ôl, yn llawer llai ffroenuchel nag o'r blaen. Aeth