Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r amaethdy, dywedodd fel y collodd y llo, ac ychwanegodd,—

"Rhaid i mi gael llo at y briodas. A oes gennych yr un llo arall fedrech werthu i mi? "

"Oes," ebe'r ffarmwr," yr un fath yn union a'r llall."

Gwerthwyd yr un llo iddo yr ail waith, ac aeth yntau tua'r llidiart fel o'r blaen. Galwodd ar y llanciau,—

"Agorwch y llidiart."

"Yr wyt ychydig yn fwy moesgar yn awr," ebe Ifan, wrth agor y llidiart iddo.

"Taw di," ebe'r cigydd, "beth wyddost ti am foesgarwch?"

"Mi ddoi di y ffordd yma eto heno," ebe Ifan.

Aeth y cigydd yn ei flaen heb ddweyd gair.

Gydag iddo fynd o'r golwg, rhedodd Ifan ar hyd y llwybr byrr o'i flaen i'r coed lle y collasai y llo. Pan ddaeth y cigydd i'r fan honno, dyma Ifan yn brefu fel llo. "Bo—o—o—o," meddai.

"Jaist i," meddai'r cigydd. "dyna fy llo i yn brefu yn y coed. Mynd yn rhydd ddaru o a dianc i'r coed. Mi dalia i o, ac felly bydd y ddau lo dalais am danynt gen i'n mynd adre."

Rhwymodd ei geffyl wrth goeden, ac aeth i'r coed i chwilio am y llo cyntaf. Gydag iddo fynd yn ddigon pell, dyma Ifan yn dod o'r gwrych, yn cymeryd y llo oddiar gefn y ceffyl, ac yn mynd âg ef i'r amaethdy'n ôl. Yna aeth i eistedd at y llanciau ereill oedd wrth y llidiart.

Ymhen hir a hwyr, wele'r cigydd yn dod yn ei ôl yr