Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ail waith, yn fwy pendrist nag o'r blaen. Aeth i'r amaethdy, dywedodd ei hanes yn colli'r ail lo tra'r oedd yn chwilio am y cyntaf yn y coed, a phrynnodd yr un llo drachefn y drydedd waith. Yna cychwyn nodd adre trwy'r llidiart.

Os gwelwch chwi'n dda," meddai wrth y bechgyn, " agorwch y llidiart."

Aeth Ifan i agor fel y ddwy waith o'r blaen, ac ebe'r cigydd,—

"Diolch yn fawr i ti."

Wedi gweld ei fod o'r diwedd wedi dod yn wr moesgar, dywedodd Ifan yr holl hanes wrtho, talwyd pris y llo ddwywaith iddo'n ôl, a rhoddwyd cyngor iddo fod yn ddiolchgar am gymwynas, ac yn foesgar wrth ei gofyn.

"Threia i byth fod yn wr mawr eto ymysg llanciau sir Drefaldwyn," ebe'r cigydd. Yr oedd wedi cael gwers nad anghofiodd hi byth.

DAU DDEDWYDD


MAE oerwynt llym o'r gogledd rhewllyd draw
Yn chwythu'n finiog drwy heolydd Llundain fawr;
Prysura pawb trwy'r oerfel tua'i gartref clyd,
A'r eira gwyn o'r nefoedd lwythog ddaw i lawr.

Ond hwre! Mae dau fachgen yn Llundain,
Mor ddedwydd a neb yn y fro,
Rhai coesnoeth a throednoeth bob amser,
Yn chware beth bynnag a fo.