Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chware berfa ynghanol yr eira
Ddug wres nas gall manblu ei roi,
Gwna chware hwy'n gynnes a dedwydd,
Tra'r hen elyn Oerfel yn ffoi.


YMWELYDD RHYFEDD

YR wyf yn cofio noson aeafaidd eiraog lawer blwyddyn faith yn ôl. Nid oeddwn i ond plentyn y gaeaf hwnnw; ond, er y noson y cyfeiriaf ati, gyda'i dychryn a'i braw, y mae gennyf barch at fy nhad yn ymylu ar addoliad.

Bwthyn digon tlodaidd oedd ein cartref, rhyw filltir o'r pentref. Ond yr oedd yn ddiddos iawn, a thân mawn braf glân yn ei gynhesu drwyddo. Yr oedd ffenestr bur fawr yn wyneb ei gegin, a ffenestr fechan yn y cefn. Wrth ffenestr y cefn rhoddid bwyd i'r adar, a llawer robin goch ddeuai i dalu ymweliad â ni ar y rhew a'r eira. Ond yr oedd ymwelydd mwy dieithr i ddod y noson honno.

Yr oedd fy mam yn wael yn ei gwely; ac yr oedd dau fachgen ohonom, a'r babi heblaw hynny. Nos Sul oedd hi; yr oedd yn noson casgliad olaf y flwyddyn hefyd, ac yr oedd yn rhaid i nhad fynd i'r capel.

Yr oedd llofruddiaeth newydd gymeryd lle yn ymyl. Yr oedd crwydryn wedi llofruddio morwyn; a dywedid fod ceiliog du wedi neidio o rywle ar arch yr eneth, druan, adeg ei chladdu. Yr oedd arswyd y ceiliog du wedi meddiannu pawb trwy Lan y Mynydd; a dyna'r rheswm, mae'n debyg, pam yr oedd Malen