Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llwyd, gwraig arw herfeiddiol, yn gwarchod gyda ni y noson honno.

Wrth i fy nhad agor y drws i fynd allan clywem swn gwynt uchel yn y derw a'r masarn mawr oedd yn gwylio o amgylch y tŷ. Ond yr oedd yr eira'n rhy wlyb i'r gwynt— fedru ei symud oddiar y ddaear; ac yr oedd sain newyn a chynddaredd yn nolef y gwynt. Noson i fod yn y tŷ oedd, nid noson i fod allan; a chlywais fy mam yn dweyd wrth fy nhad, mewn Ilais gwannaidd, am frysio adre o'r capel.

Cysgodd y babi'n hapus, a gwenodd trwy ei gwsg; a dywedodd Malen Llwyd wrthym ni ein dau mai gweld angylion yr oedd. " Ond am danaf fi, weli di," ebai wrthyf fi, wrth weld y dyddordeb gymerwn yn hanes y babi a'r angylion, " pe cauwn i fy llygaid, fel y babi yma, ysbryd drwg ddoi i siarad â fi, ac nid angel." A chyda'r gair, cauodd ei llygaid, fel pe i gael golwg ar yr ysbryd a enwasai.

Gyda i'r hen Falen gau ei llygaid, dyma ergyd ar y ffenestr, a neidiodd yr hen wraig mewn dychryn ymron oddiar ei chader, er mawr berygl i'r babi. Ergyd fel pe buasai rhywbeth ysgafn wedi ei hyrddio yn erbyn y ffenestr oedd, ac yna ergyd arall drymach yn dod yn union ar ei hol. Codais i, ac eis at y ffenestr, a rhoddais fy llaw ar y glicied. Pan oedd fy llaw ar y glicied, clywn ysgrech anaearol yn ymyl y ffenestr. Wrth dynnu fy llaw yn ôl, yn fy nychryn, codais y glicied; a chwythodd pwff o wynt y ffenestr yn agored. Gyda hynny dyma rywbeth i mewn, gyda swn nas gallaf ei ddesgrifio; a chauodd y ffenestr yn glec ar ôl y rhywbeth, megis o honi ei hun. Gyda hynny, dyma ergyd fawr yn erbyn y ffenestr drachefn. Yr oedd yr hen Falen wedi dychrynnu'n enbyd, ac