Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn gwaeddi,—" Beth ydi o, y ceiliog du neu dderyn corff?"

Yr oedd yr ymwelydd dieithr erbyn hyn yn curo adenydd gwylltion yn erbyn ffenestr fach y cefn, ar gyfer y ffenestr a ddaethai i mewn drwyddi, ac yr oedd ein gwynebau fel y galchen wrth ei glywed. Yr oedd arnaf ofn y gwnai rywbeth i fy mabi; a chymerais hidlen,—hidlen laeth,—a gosodais hi ar gefn yr ysbryd. Distawodd yn union; ac yr oeddym i gyd mewn distawrwydd yn disgwyl am fy nhad.

Pan ddaeth fy nhad adref, dywedasom yr hanes yn grynedig wrtho; a chyfeiriasom ein bysedd yn ofnus iawn at yr hidlen ar y ffenestr bach, lle'r oedd yr ysbryd neu'r ceiliog du neu rywbeth. Rhoddodd fy nhad ei law dan yr hidlen, a chydiodd mewn aderyn oedd yno gerfydd ei draed. Petrisen braf dew oedd, ac yn crynnu gan ofn fel pe buasai'n galon i gyd. Esboniodd fy nhad mai dianc o flaen y genllif goch yr oedd y betrisen, ei fod wedi gweld y genllif ysglyfaethus yn ymsaethu o gwmpas.

"Wel. mae hi'n un dew," ebe Malen Llwyd, oedd wedi adfeddiannu ei hun erbyn hynny, mi wneifl swper ardderchog i chwi."

" Na," ebai fy nhad, "i chwilio am nodded y daeth yma, a nodded a geiff."

Nid oedd fy nhad ond dyn tlawd, ac yr oedd yn anodd cael lluniaeth briodol yn y dyddiau hynny, dyddiau oerfel ac afiechyd. Ond am fywyd y betrisen, nid am fwyd amheuthyn yr oedd ef yn meddwl. Yr oedd y gwynt wedi distewi erbyn hynny, ac yr oedd yn codi'n noson oleu braf. Agorodd fy nhad y drws, a gollyngodd y betrisen allan.