BETH YW'R GWYNT?
"Beth sydd yn rhuo allan?
Beth sy'n cyflymu'n gynt?
Beth sydd yn colli llongau?
Y gwynt, y creulawn wynt.
Mae'n chwythu capiau bechgyn,
Ni waeth heb waeddi 'Ust.!'
I wybod pa beth ydyw
Rho'r bellen wrth fy nghlust."
MAE'R gwynt yn beth digri! Mae'n gwthio yn
fy erbyn pan yn mynd i'r ysgol, gan geisio fy
rhwystro, a 'does dim modd ei weld! Byddai'n
taflu fy nghap o hyd cyn i mam roddi llinyn wrtho
dan fy ngên, a phan y byddwn yn plygu i'w godi—
'Pwff,' meddai'r gwynt, gan ei chwythu ymhellach
oddi wrthyf, a chwarddai yn fy nghlust pan y rhedwn
yn bennoeth ar ei ôl. Chwalodd dô brwyn tŷ modryb
Elin hefyd, a chwythodd lyfr tasg Rhys bach o'i law
dros y bont i'r afon. O ble daeth y gwynt?" Dyna
fel y siaradai Del wrth gadw ei lyfrau ysgol, wedi
gorffen ei dasg ar noswaith oer pan chwythai'r gwynt
yn uchel, gan chwibanu arno, dybiai ef, yn nhwll y
clo i agor y drws iddo. Ac am nad oedd yn ei wahodd
i mewn taflai'r gwlaw, fel cerrig mân, ar y ffenestr.
Rhoddodd Del y bellen wrth ei glust, a chlywodd y
stori hon.
Dywed un, Del, mai Aeolia yw gwlad y gwynt, ac mai Aeolus yw brenin y wlad honno. Mae'n cadw'r gwynt mewn ystafell yn y graig, ac y mae drysau a barrau cryfion yn ei rwystro allan. Mae gan y brenin Aeolus wialen yn ei law, a chyda hi yr oedd yn gyrru'r gwynt allan,—y gwynt teg heddyw, y gwynt oer yfory, a'r ystorm drennydd, bob un yn ei dro.